a Eseia 6:9,10 (LXX)

Matthew 13

Stori'r ffermwr yn hau

(Marc 4:1-12; Luc 8:4-10)

1Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. 2Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. 3Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. 4Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta. 5Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, 6ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. 7Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu'r planhigion. 8Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.”

9“Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”

10Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti'n dweud y straeon yma wrthyn nhw?”

11Dyma oedd ei ateb: “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. 12Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. 13Dyna pam dw i'n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. 14Ynddyn nhw mae'r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir:

‘Byddwch chi'n gwrando'n astud, ond byth yn deall;
Byddwch chi'n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad.
15Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth –
maen nhw'n fyddar,
ac wedi cau eu llygaid.
Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid,
yn clywed â'u clustiau,
yn deall go iawn, ac yn troi,
a byddwn i'n eu hiacháu nhw’. a

16Ond dych chi'n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl! 17Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.

Iesu'n esbonio stori'r ffermwr yn hau

(Marc 4:13-20; Luc 8:11-15)

18“Felly dyma beth ydy ystyr stori'r ffermwr yn hau: 19Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae'r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna'r had ddisgynnodd ar y llwybr. 20Yr had sy'n syrthio ar dir creigiog ydy'r sawl sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. 21Ond dydy'r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae'n troi cefn yn ddigon sydyn! 22Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd. 23Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r sawl sy'n clywed y neges ac yn ei deall. Mae'r effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.”

Stori'r chwyn

24Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. 25Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. 26Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i'r golwg hefyd.

27“Daeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’

28“‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai.

“‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision.

29“‘Na,’ meddai'r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o'r gwenith wrth dynnu'r chwyn. 30Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd. Wedyn pan ddaw'r cynhaeaf bydda i'n dweud wrth y rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a'u rhwymo'n fwndeli i'w llosgi; wedyn cewch gasglu'r gwenith a'i roi yn fy ysgubor.’”

Stori'r hedyn mwstard a stori'r burum

(Marc 4:30-34; Luc 13:18-21)

31Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. 32Er mai dyma'r hedyn lleia un, mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae'n tyfu'n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”

33Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a'i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”

Iesu'n adrodd straeon

(Marc 4:33-34)

34Roedd Iesu'n dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. 35Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd
13:35 proffwyd: proffwyd Eseia yn rhai llawysgrifau.
yn dod yn wir:

“Siaradaf drwy adrodd straeon,
Dwedaf bethau sy'n ddirgelwch ers i'r byd gael ei greu.” c

Esbonio stori'r chwyn

36Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i'r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio'r stori am y chwyn i ni?”

37Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy'r un sy'n hau yr had da. 38Y byd ydy'r cae, ac mae'r hadau da yn cynrychioli'r bobl sy'n perthyn i'r deyrnas. Y bobl sy'n perthyn i'r un drwg ydy'r chwyn, 39a'r gelyn sy'n eu hau nhw ydy'r diafol. Diwedd y byd ydy'r cynhaeaf, a'r angylion ydy'r rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf.

40“Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd – fel y chwyn sy'n cael eu casglu i'w llosgi, 41bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan, a byddan nhw'n chwynnu o blith y bobl sy'n perthyn i'w deyrnas bawb sy'n gwneud i bobl bechu, a phawb sy'n gwneud drwg. 42Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i'r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith. 43Wedyn bydd y bobl wnaeth beth sy'n iawn yn disgleirio fel yr haul pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.

Stori'r trysor cudd a stori'r perl gwerthfawr

44“Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi ei guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna'n ei guddio eto. Wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu'r cae hwnnw.

45“Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. 46Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae'n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu'r un perl hwnnw.

Stori'r rhwyd

47“Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy'n cael ei gollwng i'r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi. 48Mae'r pysgotwyr yn llusgo'r rhwyd lawn i'r lan. Wedyn mae'r pysgod da yn cael eu cadw a'u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd. 49Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasglu'r bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth sy'n iawn, 50ac yn eu taflu nhw i'r ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.

51“Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu.

“Ydyn,” medden nhw.

52Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob athro yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy'n dod â thrysorau newydd a hen allan o'i ystordy.”

Pobl Nasareth yn troi yn ei erbyn

(Marc 6:1-6; Luc 4:16-30)

53Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl 54i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw'n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw. 55“Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr? 56Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?” 57Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!”

58Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu.

Copyright information for CYM